Cysylltiadau hygyrchedd

Polisi preifatrwydd

Diweddarwyd Hydref 2011

Pwy ydym ni

Darparwyd y wefan hon gan UCAS Progress. Mae UCAS Progress yn un o is-adrannau UCAS Media. Mae UCAS Media yn is-gwmni sy’n eiddo’n gyfan gwbl i UCAS, Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau. Cwmni cofrestredig yn Lloegr 2737300. Swyddfa gofrestredig: Rosehill, New Barn Lane, Cheltenham, GL52 3LZ. Rhif cofrestru TAW GB 618 2306 57

Cyflwyniad

Dyma bolisi preifatrwydd y wefan hon. Mae’n dweud wrthych beth a wnawn gyda’r wybodaeth bersonol fydd yn cael ei chasglu pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon ac yn datgan beth sy’n cael ei wneud i ddarparu gwefan ddiogel i bawb.

Mae gennych rai hawliau penodol dros y pethau y byddwch yn ei ddweud wrthym amdanoch eich hun wrth ddefnyddio ein gwefannau. Ceir gwybodaeth bellach am yr hawliau hyn yn Neddf Diogelu Data 1998 ragor o wybodaeth.

Mae UCAS Progress yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

Pam mae gwybodaeth yn cael ei chasglu o’r wefan hon

Wrth ddefnyddio’r wefan hon, efallai y gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun (e.e. enw, dyddiad geni) er mwyn mewngofnodi a defnyddio ein gwefannau. Efallai y byddwch hefyd yn darparu gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun wrth ddefnyddio’r wefan hon. Mae’r gwasanaeth a gewch yn ceisio eich cefnogi fel dysgwr a rhoi arweiniad i chi ar eich dysgu a dilyniant eich gyrfa.

Drwy roi eich manylion yn y meysydd gofynnol, rydych yn ein galluogi i roi gwasanaeth i chi ac unrhyw wybodaeth y gofynnwch amdani. Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol o’r fath, byddwn yn ei thrin yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn. Wrth ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn gweithredu’n unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Defnyddio, rhannu a storio eich gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni (e.e. i fewngofnodi) mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol tuag atoch yn y ffordd y defnyddiwn y data hwn. Mae’n rhaid i ni gasglu’r wybodaeth mewn ffordd deg, hynny yw, mae’n rhaid i ni esbonio sut y byddwn yn ei defnyddio ac yn dweud wrthych os byddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth ymlaen at unrhyw un arall.

Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch ar y wefan hon ond yn cael ei defnyddio i ddarparu’r wefan a’ch cynorthwyo i’w defnyddio a’i gwasanaethau. Gellir defnyddio eich gwybodaeth at y dibenion canlynol:

  1. 1. Fel cynnwys y gallech ei gwblhau wrth ddefnyddio’r wefan hon.
  2. 2. I ddarparu gwybodaeth a chymorth i chi
  3. 3. Eich helpu i weithredu a defnyddio’r wefan
  4. 4. Cynorthwyo eich ysgol/coleg, athrawon, cynghorwyr Connexions a’r darparwyr y byddwch yn gwneud cais iddynt i’ch cefnogi mewn cysylltiad â’r wefan a’ch defnydd ohoni.
  5. 5. Eich hysbysu ynglŷn â datblygiadau i’r wefan hon neu newidiadau ar sut i ddefnyddio’r wefan.
  6. 6. Asesu a gwerthuso’r defnydd a wneir o’r wefan
  7. 7. Cyfeirio at rif unigryw’r dysgwr, er enghraifft y rhai a ddarperir gan yr Adran Addysg a’r Learner Record Service.
  8. 8. Gallwn rannu gwybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu, neu a roddwyd gennych chi, gyda staff y darparwr rydych yn ei fynychu ar hyn o bryd neu’n ystyried ei fynychu fel myfyriwr.
  9. 9. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan i arbed hoff gyrsiau, efallai y byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolygon a fwriedir i’n helpu i ddatblygu ein gwefannau a’n gwasanaethau. Er y byddem yn croesawu eich sylwadau, nid oes rheidrwydd arnoch i ymateb.

Gallwn ddarparu ystadegau cyfunol ynglŷn ag ymwelwyr, patrymau traffig, atebion i gwestiynau, cynnwys a gofnodwyd a gwybodaeth gysylltiedig y safle i drydydd partïon cyfrifol a dibynadwy. Bydd y wybodaeth a ddefnyddir at y dibenion hyn yn cael ei hagregu (h.y. ei chyfuno â data defnyddwyr eraill) a’i gwneud yn ddienw ac ni fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Gallwn gadw data at ddibenion hanesyddol, ystadegol ac ymchwil. Pan fyddwn yn cadw data at y dibenion hyn, mae’n cael ei storio a’i phrosesu’n briodol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Fel arall, byddwn ond yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd parti pan fydd yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu gan y gyfraith. Gall awdurdodau, megis yr Heddlu, ofyn am wybodaeth bersonol i helpu ymchwiliadau a byddwn yn ei darparu pan fydd yn rhesymol i ni wneud hynny. Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar y system hon cyhyd ag y bydd ei hangen at y diben y cafodd ei darparu ac yn ei dileu os bydd y diben hwnnw wedi’i gyflawni neu, os nad ydych yn dymuno parhau i gofrestru fel defnyddiwr un o’n gwefannau.

Postiadau a gwybodaeth farchnata

O bryd i’w gilydd hoffem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn anfon gwybodaeth gyffredinol atoch (‘postiadau’) drwy e-bost megis cylchlythyrau sy’n cynnwys gwybodaeth gan sefydliadau a busnesau dethol y credwn fyddai’n ddefnyddiol i chi.

Yn ogystal, o bryd i’w gilydd, hoffem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn anfon gwybodaeth marchnata neu hyrwyddo atoch ynglŷn â chynhyrchion a gwasanaethau a allai fod o fudd i chi; neu gyfleoedd cyllid neu nawdd penodol. Gallai postiadau a gwybodaeth farchnata gynnwys gwybodaeth a anfonwyd gan grŵp cwmnïau UCAS ar ran trydydd partïon dethol yr ydym yn ystyried eu bod yn ddibynadwy. Nodwch, ar wahân i’r manylion a gyflwynir yn y polisi preifatrwydd hwn neu yn y datganiad diogelu data, ni fydd eich manylion yn cael eu rhyddhau i unrhyw drydydd parti.

Ni fyddwn yn cysylltu â chi gyda’r wybodaeth hon oni fyddwch yn caniatáu’n benodol i ni wneud hynny. Er mwyn i ni allu cysylltu â chi at y dibenion hyn, mae angen eich caniatâd arnom. Dylech roi tic yn y blychau priodol ar y dudalen gofrestru os ydych yn dymuno derbyn ein postiadau a/neu wybodaeth farchnata. Byddwn yn eich annog i roi tic yn y blwch oherwydd bod hyn yn ein helpu ni i’ch helpu chi.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl, ar unrhyw adeg, i UCAS ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion anfon postiadau neu wybodaeth farchnata drwy roi tic yn y blychau priodol yn yr adran Cyfrif, neu drwy ysgrifennu at Company Secretary, UCAS, Rosehill, New Barn Lane, Cheltenham, Glos GL52 3LZ.

Cyfathrebu â chi

Gallai’r wybodaeth a gasglwn amdanoch gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Os bydd y manylion hyn yn newid, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni ar unwaith er mwyn i ni allu parhau i gyfathrebu â chi.

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost fel arfer.

Diogelwch

Mae’r wefan hon yn defnyddio mesurau diogelwch safonol y diwydiant i ddiogelu eich data a sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol a ddarparwyd yn cael ei storio’n ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Rydym yn eich argymell i gadw unrhyw gyfrineiriau neu enwau defnyddiwr yn gyfrinachol a chytuno i beidio â datgelu eich cyfrinair i unrhyw un arall.

Hefyd, os byddwch yn postio neu’n anfon cynnwys sarhaus, amhriodol neu annerbyniol unrhyw le ar neu i unrhyw un o’n gwefannau, neu’n cymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad aflonyddol ar y wefan hon, gall yr awdurdod lleol, ei bartneriaid neu ddarparwr gwasanaeth ddefnyddio pa bynnag wybodaeth sydd ar gael amdanoch chi er mwyn atal ymddygiad o’r fath. Gallai hyn gynnwys hysbysu trydydd partïon perthnasol megis eich ysgol, cyflogwr, darparwr e-bost/gwasanaeth rhyngrwyd eich ysgol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith ynglŷn â’r cynnwys a’ch ymddygiad.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na diogelwch unrhyw safleoedd sy’n gysylltiedig â’r wefan hon megis cysylltiadau i wefannau darparwyr sydd ar gael drwy’r prosbectws ardal a systemau cyflwyno cais.

Defnyddio Cookies

Mae cookie yn swm bychan o ddata a roddir ar eich cyfrifiadur gan wefannau y byddwch yn ymweld â hwy. Maent yn cael eu defnyddio’n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu i weithio’n fwy effeithlon, ac er mwyn olrhain ymweliadau defnyddwyr i wefannau. Mae cookies yn aml yn cynnwys dynodwr unigryw sy’n cael ei anfon i borwr eich cyfrifiadur neu ffôn symudol o gyfrifiadur gwefan ac sy’n cael ei storio ar eich dyfais.

Nid yw UCAS yn defnyddio cookies i gasglu gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi. Bydd UCAS ond yn defnyddio cookies er mwyn ei gwneud yn haws i’ch adnabod chi pan fyddwch yn defnyddio’r rhwydwaith. Gallwch gyflunio eich porwr gwe i beidio â derbyn cookies (dylai’r swyddogaeth Help yn eich porwr ddweud wrthych sut i wneud hyn). Dylech fod yn ymwybodol y gallai cyfyngu cookies effeithio ar weithrediad gwefannau UCAS i chi.

Gallai’r wefan gynnwys cysylltiadau a allai ei gwneud yn haws i chi ymweld â gwefannau eraill. Nid oes gan UCAS unrhyw reolaeth dros y gwefannau hyn. Felly, os byddwch yn defnyddio’r cysylltiadau hyn i adael UCAS ac ymweld â gwefannau sy’n cael eu gweithredu gan drydydd partïon, ni all UCAS fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch wrth ymweld â’r gwefannau hyn.

  1. Rhestr o’r cookies a ddefnyddiwn:
  2. Enw’r cookie: .ASPXAUTH Diben : Mae’r cookie hwn yn hollbwysig am ei fod yn caniatáu i ddefnyddwyr fewngofnodi i UCAS Progress. Bydd y gweinyddwr gwe yn anfon cookie i ddechrau sy’n cynnwys dynodwr unigryw ar gyfer y sesiwn. Yna bydd defnyddwyr yn nodi eu gwybodaeth a bydd UCAS Progress yn dilysu’r sesiwn ac yn caniatáu i’r defnyddiwr gael mynediad i wasanaethau.
  3. Enwau cookies: __utma, __utmb, __utmc, __utmv and __utmz Diben: Mae cookies olrhain dadansoddeg Google yn gwerthuso eich defnydd ar y safle ac yn galluogi UCAS Progress i adrodd ar y gweithgarwch. Defnyddir hyn i weinyddu’r system ac i fonitro a chyflwyno gwybodaeth agregedig. Data ystadegol yw hwn ynglŷn â gweithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw’n eich datgelu chi, fel unigolyn. Mae disgrifiad o bob un o’r cookies hyn ar gael yma yn http://code.google.com/apis/analytics/docs/concepts/gaConceptsCookies.html#cookiesSet

Cookies a chysylltiadau trydydd parti:

Yn ystod eich ymweliadau â gwefannau UCAS Progress, efallai y byddwch yn sylwi nad yw rhai cookies yn gysylltiedig â chontractwyr UCAS Progress neu UCAS. Pan fyddwch yn ymweld â thudalen â chynnwys wedi’i ymgorffori o YouTube neu Flickr, er enghraifft, efallai y byddwch yn derbyn cookies o’r gwefannau hyn. Nid yw UCAS Progress yn rheoli’r cookies hyn. Dylech edrych ar wefannau trydydd partïon i gael gwybodaeth bellach am y rhain.

Gallai’r wefan gynnwys cysylltiadau sy’n ei gwneud yn haws i chi ymweld â gwefannau eraill. Nid oes gan UCAS unrhyw reolaeth dros y gwefannau hyn. Felly, os byddwch yn defnyddio’r cysylltiadau hyn i adael UCAS ac yn ymweld â gwefannau a weithredir gan drydydd partïon, ni all UCAS fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth ymweld â’r gwefannau hyn.

Eich caniatâd

Drwy ddarparu gwybodaeth bersonol, rydych yn caniatáu i’r wybodaeth hon gael ei defnyddio fel y disgrifiwyd yn y Polisi Preifatrwydd hwn neu fel y datganwyd pan gasglwyd gwybodaeth o’r fath.

Gallwn newid, addasu neu ddiwygio’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu postio ar y dudalen hon ar y wefan hon felly dylech ei darllen o bryd i’w gilydd. Bydd parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i’r Polisi Preifatrwydd yn golygu eich bod wedi derbyn y newidiadau hynny.

Eich hawl i ofyn i weld gwybodaeth sydd gennym amdanoch chi

Mae gennych hawl i wneud cais am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ac i gywiro unrhyw wallau. Gellir codi tâl gweinyddol o £10 am y gwasanaeth hwn. Dylech gyfeirio ceisiadau i UCAS Progress, fel y darparwr gwasanaeth. Gallai UCAS Progress anfon eich cais yn uniongyrchol at y Swyddog Diogelu Data yn eich awdurdod lleol.

Dylech gysylltu â: Data Protection Officer, UCAS Progress, Rosehill, New Barn Lane, Cheltenham GL52 3LZ.